Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Yr hyn y mae angen i chi ei wybod gyntaf

Eich hawliau fel dioddefwr Ymchwiliad yr heddlu

Pan fydd rhywun yn riportio trosedd, bydd yr heddlu yn penderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad ai peidio. Os bydd yr heddlu’n cynnal ymchwiliad mae hyn yn golygu y byddan nhw’n chwilio am yr holl dystiolaeth o fewn eu gallu i ddeall beth ddigwyddodd.

Bydd yr heddlu’n cofnodi eich disgrifiad o’r hyn a ddigwyddodd – eich datganiad tyst chi yw’r enw ar hwn. Fel rhan o’u hymchwiliad byddant hefyd yn cymryd datganiadau gan unrhyw un a welodd beth ddigwyddodd neu a all ddarparu gwybodaeth i helpu’r ymchwiliad.

Bydd yr heddlu hefyd yn cyfweld unrhyw un yr amheuir ei fod wedi cyflawni’r trosedd – gallai hyn fod yn rhywun rydych chi wedi’i enwi neu’n rhywun mae’r heddlu’n ei amau am reswm arall.  Bydd unigolion a amheuir yn cael eu cyfweld ‘dan rybudd’ sy’n golygu nad oes yn rhaid iddynt ateb cwestiynau’r heddlu ond y gellir defnyddio unrhyw beth maent yn ei ddweud fel tystiolaeth yn yr achos.  

Bydd ymchwiliad yr heddlu hefyd yn cynnwys chwilio am fathau eraill o dystiolaeth fel tystiolaeth Teledu Cylch Cyfyng, tystiolaeth fforensig fel olion bysedd, tystiolaeth feddygol neu dystiolaeth ddigidol fel negeseuon testun. Bydd y mathau o dystiolaeth y bydd yr heddlu’n chwilio amdani yn dibynnu ar yr hyn sy’n berthnasol i’ch achos.

Os bydd yr heddlu angen casglu tystiolaeth o’ch dyfeisiau fel eich ffôn symudol neu eich gliniadur, byddant yn gofyn am eich cytundeb i wneud hyn. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn ein hadran ar ddefnyddio tystiolaeth ddigidol sydd ar gael.

Pryd mae’r heddlu’n gwneud penderfyniad ynghylch cyhuddo?

Ar gyfer troseddau llai difrifol, er enghraifft dwyn o siopau neu rai troseddau sydd â dedfryd o ddim mwy na 6 mis (neu lai) yn y carchar, bydd yr heddlu’n penderfynu a oes digon o dystiolaeth i gyhuddo unigolyn a amheuir. 

Os yw’n briodol ar gyfer trosedd llai difrifol, efallai y bydd yr heddlu’n penderfynu delio â’r trosedd gyda’r hyn sy’n cael ei alw’n ‘delio â throseddwyr y tu allan i'r Llys.’ 

Mae hyn yn golygu na fydd y troseddwr yn cael ei erlyn yn ffurfiol ond bydd manylion yr ymchwiliad yn aros ar eu cofnod, ac efallai y byddant yn cael rhybuddiad.

Os bydd yr heddlu’n penderfynu bod angen erlyniad ar gyfer y math hwn o drosedd, byddant yn cyhuddo’r unigolyn a amheuir ac yn anfon yr achos atom yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron. 

Rhaid cychwyn erlyniadau am y mathau hyn o droseddau o fewn chwe mis i’r dyddiad y digwyddodd y trosedd. Mae hyn yn golygu na allwn erlyn rhywun am drosedd llai difrifol os nad ydynt wedi cael eu cyhuddo o fewn chwe mis. 

Pryd mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gwneud penderfyniad ynghylch cyhuddo?

Ar gyfer troseddau mwy difrifol, fel troseddau casineb, cam-drin domestig neu unrhyw droseddau sydd â dedfryd o fwy na 6 mis yn y carchar, bydd yr heddlu’n anfon yr achos atom yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron heb wneud penderfyniad ynghylch cyhuddo. Bydd erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron wedyn yn penderfynu a oes modd cyhuddo ac erlyn unigolyn a amheuir. 

Os nad yw’r heddlu’n credu bod ganddynt ddigon o dystiolaeth, ni fyddant yn trosglwyddo’r achos i ni ac ni fydd yr unigolyn a amheuir yn cael ei gyhuddo o drosedd. 

Os bydd hynny’n digwydd, bydd eich cyswllt yn yr heddlu yn esbonio pam, pa gymorth sydd ar gael i’ch helpu ac a oes unrhyw gamau eraill y gallant eu cymryd yn erbyn yr unigolyn dan amheuaeth.  

Os bydd yr heddlu’n penderfynu peidio ag anfon eich achos atom, gallwch ofyn i’r heddlu adolygu’r penderfyniad hwnnw – gelwir hyn yn Hawl Dioddefwr i Adolygiad. Gall eich cyswllt yn yr heddlu roi gwybod i chi sut i wneud hyn. 

Ein rôl yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron

Pan fydd yr heddlu’n credu bod ganddynt ddigon o dystiolaeth, byddant yn trosglwyddo’r achos i ni yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron. 

Ar gyfer troseddau llai difrifol, er enghraifft dwyn o siop, bydd yr heddlu eisoes wedi penderfynu cyhuddo’r unigolyn a amheuir cyn iddynt anfon yr achos atom ni. 

Yn yr achosion hyn, byddwn yn adolygu’r dystiolaeth i wneud yn siŵr ein bod yn cytuno â phenderfyniad yr heddlu cyn bwrw ymlaen ag erlyniad. Os byddwn yn penderfynu nad oes digon o dystiolaeth i erlyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw’r rheswm dros ein penderfyniad. Gallwch ddarllen mwy am hyn a’ch hawl i gael adolygiad yn ein hadran ar wneud ein penderfyniadau ar dudalen 17.

Ar gyfer troseddau mwy difrifol, fel troseddau casineb, cam-drin domestig neu unrhyw droseddau sydd â dedfryd o fwy na 6 mis yn y carchar, byddwn yn adolygu’r dystiolaeth mae’r heddlu wedi ei chasglu, ac yn penderfynu a allwn ni erlyn yr unigolyn a amheuir ai peidio. 

Rydym yn gwneud ein penderfyniadau drwy ddilyn prawf dau gam a nodir yn ein Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn yr adran ar wneud ein penderfyniad.

Mewn rhai achosion mwy cymhleth, gallwn gynnig ‘cyngor cynnar’ i’r heddlu. Mae hyn yn golygu, os byddant yn gofyn am gyngor gennym, ein bod yn gweithio gyda nhw cyn gynted â phosibl i’w cynghori ynghylch pa fath o dystiolaeth i chwilio amdani i’w helpu i adeiladu’r achos. Mae gweithio gyda’n gilydd yn ein helpu i adeiladu achosion cryf mor gyflym ac mor effeithiol â phosibl.  

Nid ydym yn ymchwilio i droseddau ac ni allwn adolygu achos os na chaiff ei anfon atom gan yr heddlu. 

Pwy fydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi

Mae gennych yr hawl dan y Cod Dioddefwyr i gael gwybodaeth am yr ymchwiliad a’r erlyniad.

Bydd yr heddlu’n rhoi gwybod i chi beth sy’n digwydd yn eich achos ar bob cam – gan gynnwys os neu pryd y bydd angen i chi fynd i’r llys. 

Bydd yr heddlu’n neilltuo swyddog i’ch achos fel eich pwynt cyswllt pan fyddwch yn rhoi gwybod am y digwyddiad – gellid cyfeirio at y person fel y Swyddog â Gofal neu’r ‘OIC’. Byddant yn trafod gyda chi sut a phryd y byddant yn cysylltu â chi er mwyn i chi allu cytuno ar yr hyn sy’n gweithio i chi. Bydd hefyd yn dweud wrthych chi sut mae cysylltu os oes gennych chi gwestiynau ar unrhyw adeg.  

Fel arfer, ni fyddwch yn siarad â rhywun o Wasanaeth Erlyn y Goron yn ystod camau cynnar eich achos. Fel arfer, dim ond yn y llys neu mewn amgylchiadau lle bu’n rhaid i ni newid y cyhuddiadau neu stopio’r achos y byddwn yn cwrdd â dioddefwyr. Byddwn yn dal i weithio ar eich achos felly gallwch roi gwybod i’r heddlu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau i’r erlynydd. 

Os oes gennych chi eiriolwr annibynnol fel Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVA) neu Gynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig, gallant eich cefnogi yn eich cyswllt â’r heddlu, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi’n uniongyrchol os byddai’n well gennych chi hynny. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i’ch helpu yn yr adran nesaf. Os ydych chi’n dioddef trais neu ymosodiad rhywiol, gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth arbenigol sydd ar gael i’ch helpu yn ein canllaw i ddioddefwyr trais ac ymosodiadau rhywiol.

Scroll to top