English

Beth am wneud cais i fod yn hyfforddai cyfreithiol

Ymunwch â Gwasanaeth Erlyn y Goron fel hyfforddai cyfreithiol a chael dyfodol sy’n bwysig.

Y dyddiad cau i geisiadau yw 6 Chwefror 2025.

Pam Gwasanaeth Erlyn y Goron?

Rydym yn amddiffyn y cyhoedd drwy erlyn y person cywir am y drosedd gywir. Rydym yn annibynnol ac yn gwneud penderfyniadau’n deg ac yn wrthrychol drwy ddilyn ein Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron.

Rôl fel erlynydd y goron wedi'i gwarantu wedyn

Ennill profiad gwerthfawr ym mhob maes cyfraith trosedd

Cael budd o weithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd

Community-verified icon

Rhoi hyfforddiant ar waith mewn sefyllfa go iawn

Cael 25 diwrnod o wyliau bob blwyddyn, 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd

Pensiwn cyfrannol cystadleuol o hyd at 28.9%

Ydych chi’n fyfyriwr graddedig gyda gradd yn y gyfraith a chymhwyster Cwrs Ymarfer y Gyfraith (LPC) neu Gwrs Ymarfer y Bar (BPC) sy’n awyddus i fod yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr cwbl gymwys?

Eurgain, Hyfforddai Cyfreithiol

Mae Eurgain yn hyfforddai cyfreithiol sy’n siarad Cymraeg a Saesneg. Cafodd ei derbyn ar ein cynllun dwyieithog i hyfforddeion cyfreithiol, ac mae'n datblygu sgiliau a fydd yn cefnogi gyrfa lwyddiannus yn y gyfraith. 

Pam ddylech chi ein hystyried ni 

Mae ein hyfforddeion a’n disgyblion yn canmol ein sefydliad am fod yn agos-atoch ac yn gynhwysol. Bydd rôl fel erlynydd wedi’i gwarantu ar ôl cwblhau eich hyfforddiant yn llwyddiannus. Cewch foddhad yn eich swydd wrth weithio i Wasanaeth Erlyn y Goron, ac rydym yn darparu technoleg gyfreithiol wych i’ch helpu yn eich gwaith. Rydym yn gofalu am eich lles, ac yn cynnig hyblygrwydd a gweithio hybrid i gael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.

Sesiynau gwybodaeth

Gofynnwch gwestiynau i'n tîm recriwtio am cynllun hyfforddeion cyfreithiol Gwasanaeth Erlyn y Goron. O'r broses ymgeisio i gwestiynau am y swydd, rydyn ni yma i helpu! Nid oes unrhyw fideo na sain yn y sgwrs we fyw hon, felly teipiwch eich cwestiynau.

  • Dydd Mercher 15 Ionawr, 1-2pm (cyfreithiwr sy'n siarad Cymraeg) - cofrestrwch yma
  • Dydd Mercher 29 Ionawr, 1-2pm (bargyfreithiwr sy'n siarad Cymraeg) - cofrestrwch yma

Mae ein llwybrau hyfforddeion cyfreithiol ar agor ledled Cymru a Lloegr, ac mae llwybr Cymraeg dwyieithog ar gael. 

Y dyddiad cau i geisiadau yw 6 Chwefror 2025.

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am swyddi gwag

Ymunwch â'n cylchlythyr i ddarganfod mwy am gyfleoedd i ymuno â Gwasanaeth Erlyn y Goron.