Merch yn ei harddegau wedi ei heuogfarnu am ymgeisio i lofruddio mewn ysgol
Mae geneth 14 mlwydd oed a drywanodd ddwy athrawes a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman wedi ei heuogfarnu yn Llys y Goron Abertawe heddiw.
Roedd y ferch, yn ei harddegau, nad oes modd ei henwi oherwydd ei hoedran, eisoes wedi cyfaddef i drywanu tri o bobl ar 24 Ebrill 2024 ond wedi gwadu ymgeisio i'w lladd.
Clywodd y rheithgor ei bod wedi trywanu'r athrawes gyntaf dro ar ôl tro gan ddweud, "Rwy'n mynd i'ch [rheg] lladd chi." Cafodd yr athrawes anafiau i'w dwy fraich.
Aeth ail athrawes i ymyrryd a cheisio dal y ferch yn ôl a chafodd hithau, hefyd, ei thrywanu gan gael anafiadau i'w gwddf, ei chefn, ei choesau a'i breichiau.
Ceisiodd aelodau eraill o'r staff addysgu dawelu'r ferch ifanc, oedd yn parhau i ddweud, "Rwy'n mynd i'w [rheg] lladd hi."
Yna ymysododd yr eneth, oedd yn 13 ar yr pryd, ar ddisgybl 14 mlwydd oed gydag amlerfyn llafnog, gan achosi anaf i fôn ei braich, cyn i staff lwyddo ei dal yn ôl.
Wedi clywed yr holl dystiolaeth, cafodd y rheithgor yr eneth ifanc yn euog o geisio llofruddio'r tri dioddefwr.
Dywedodd Michael Cray, o Wasanaeth Erlyn y Goron, "Mae'n rhaid bod hyn wedi bod yn ddigwyddiad brawychus i'r dioddefwyr a'r rhai a dystiodd iddo.
"Dangosodd y dystiolaeth a gyflwynwyd gan y CPS fwriad y diffynnydd pan chwifiodd a defnyddio'r arf yn yr ysgol.
"Diolch i'r drefn na chyflawnwyd y bwriad hwnnw. Clywn yn rhy aml am ddigwyddiadau yn ymwneud â chyllyll yn arwain at dristwch colli bywyd.
"Hoffem gydnabod dewrder y staff a'r disgyblion yn Ysgol Dyffryn Aman ar yr adeg anodd iawn hwn."
Bydd y merch yn dedfrydu ym mis Ebrill 2025.
Nodiadau i olygyddion
- Mae Ysgol Dyffryn Aman yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin
- Nid oes modd enwi'r diffynnydd oherwydd ei hoedran
- Mae cyfyngiadau ar adrodd yn atal unrhyw wybodaeth rhag cael ei chyhoeddi y gallai'r eneth gael ei hadnabod ohoni
- Uwch-erlynydd y Goron yn CPS Cymru yw Michael Cray.