Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Datganiad Cydraddoldeb Traws

|Publication

Mae'r Datganiad Cydraddoldeb Traws yn cymryd lle Cyfarwyddyd Rheoli Cydraddoldeb Trawsrywiol GEG a gynhyrchwyd gyntaf yn 2006, a'i ddiweddaru ddiwethaf yn 2014 gyda mewnbwn cymunedol. Yn 2018, dywedodd rhanddeiliaid cymunedol wrthym ni fod ein cyfarwyddyd rheoli wedi gwasanaethu ei bwrpas ac y dylid ei newid am ddogfen lawer byrrach, ar gyfer y cyhoedd, yn datgan ein hymrwymiadau allweddol ac yn gysylltiedig â pholisi, cyfarwyddyd ac ymchwil perthnasol.

Mae nod y Datganiad Cydraddoldeb Traws felly yn eithaf syml, darparu trosolwg byr o ymrwymiadau GEG allweddol i gydraddoldeb Traws er mwyn cynnal hyder cymunedau.

Polisi Erlyn

Mae GEG eisiau bod yn awdurdod erlyn annibynnol o safon byd sy'n darparu gwasanaeth cyhoeddus gwerthfawr yng Nghymru a Lloegr, gan sbarduno gwelliannau yn y system cyfiawnder troseddol, hybu cyfiawnder a hawliau dioddefwyr ac ysbrydoli hyder yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.Y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron yw'r ddogfen bwysicaf sy'n llywodraethu ein penderfyniadau erlyn. Mae'n dweud:

“Mae'n ddyletswydd ar erlynwyr i sicrhau bod y person cywir yn cael ei erlyn am y trosedd cywir a dwyn troseddwyr i gyfiawnder pan fo hynny'n bosib. Mae penderfyniadau gwaith achos a wneir yn deg, yn ddiduedd a gyda didwylledd yn helpu i sicrhau cyfiawnder ar gyfer dioddefwyr, tystion, diffynyddion a'r cyhoedd. Rhaid i erlynwyr sicrhau bod y gyfraith yn cael ei gweithredu'n briodol, bod tystiolaeth berthnasol yn cael ei chyflwyno ger bron y llys ac y cydymffurfir â rhwymedigaethau datgelu.” [2.5] Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron

Rhaid i bob penderfyniad i erlyn fodloni'r profion budd tystiolaethol a chyhoeddus sydd wedi'u datgan yn y Cod. Wrth ystyried budd cyhoeddus wrth erlyn, dywed y Cod:

“Mae'n fwy tebygol y bydd angen erlyn os caiff y trosedd ei gymell gan unrhyw ffurf ar ragfarn yn erbyn tarddiad ethnig neu genedlaethol gwirioneddol neu dybiedig y dioddefwr, neu ei ryw, ei anabledd, oedran, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rywiol; neu os gwnaeth y drwgdybiedig dargedu neu gamfanteisio ar y dioddefwr, neu ddangos casineb tuag at y dioddefwr, yn seiliedig ar unrhyw rai o'r nodweddion hynny.” [4.14 c)]

Mae GEG yn cydnabod y gall defnyddio camddefnydd o ryw fel tacteg fwriadol wrth gomisiynu trosedd fod yn sail i drosedd casineb trawsffobig. Hefyd gall datgelu rhyw yn anwirfoddol arwain at ganlyniadau arwyddocaol i'r unigolyn. Yn erbyn y cefndir hwn, mae GEG yn cydnabod yr angen am sensitifrwydd wrth ddefnyddio terminoleg briodol.

Dylai erlynwyr gyfarch dioddefwyr, tystion a diffynyddion Traws yn unol â'r rhyw a'r enw maent wedi'u cadarnhau, gan ddefnyddio'r rhyw honno a'r rhagenwau cysylltiedig ym mhob dogfen ac yn y llys.

Mae Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Heddlu (NPCC) a GEG wedi cytuno ar ddiffiniad cyffredin o drosedd casineb, sef:

“Unrhyw drosedd cyfreithiol a ystyrir gan y dioddefwr neu unrhyw berson arall fel trosedd wedi'i    gymell gan gasineb neu ragfarn yn seiliedig ar hil neu hil dybiedig person; ei grefydd neu ei grefydd dybiedig; ei gyfeiriadedd rhywiol neu ei gyfeiriadedd rhywiol tybiedig; anabledd neu anabledd tybiedig ac unrhyw drosedd gaiff ei gymell gan gasineb neu ragfarn yn erbyn person trawsrywiol neu y tybir ei fod yn drawsrywiol.”

Mae'r diffiniad yn ehangach na'r diffiniad cyfreithiol i sicrhau y rhoddir gwybod am yr holl droseddau perthnasol a all fod yn droseddau casineb ac yr ymchwilir iddynt.

Mae ein Datganiad Cyhoeddus ar Erlyn Troseddau Casineb Homoffobig, Deuffobig a Thrawsffobig yn esbonio'r canlynol:

“Mae traws neu drawsrywiol yn dermau am bobl nad yw eu hunaniaeth rywiol yn cyfateb i'w rhyw adeg eu geni. Defnyddir y termau ‘trawsrywiol’ a ‘hunaniaeth drawsrywiol’ yn y ddeddfwriaeth troseddau casineb ac maent yn cynnwys cyfeiriadau at fod yn drawsrywiol, neu gael, neu fwriadu cael, neu fod wedi cael proses neu ran o broses i ailbennu rhywedd.

“Hunaniaeth rywiol yw un o'r termau mwyaf cyffredin a ddefnyddir i gydnabod y sbectrwm rhywiau. Mae'n cynnwys y rhai sy'n galw eu hunain yn wrywod ac yn fenywod ac yn cynnwys rhyngrywiol, dim cydymffurfiaeth â rhyw neu amrywiad rhyw, er enghraifft, y rhai sy'n cyfeirio at eu hunain fel di-ryw, anneuaidd neu ryweddhylifol yn ogystal â'r rhai yn y diffiniad ailbennu rhywedd yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

“Os nad oes tystiolaeth, neu os yw'r dystiolaeth yn annigonol, i brofi'r elfen o gasineb yn seiliedig ar gyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth drawsrywiol, efallai y bydd erlynwyr yn dal i allu tynnu sylw'r llys at unrhyw nodweddion gwaethygol perthnasol eraill wrth ddedfrydu.

“Gall pobl iau wynebu amrywiaeth o heriau yn aml wrth ymwneud â materion cysylltiedig â hunaniaeth bersonol a byddwn yn ymwybodol iawn o'r holl amgylchiadau, gan gynnwys yr effaith benodol ar ddioddefwyr iau y troseddau hyn.”

Mae'r datganiad cyhoeddus yn cynnwys nifer o ymrwymiadau, gan gynnwys y canlynol:

  • adnabod troseddau cysylltiedig â chasineb ar sail hunaniaeth drawsrywiol mor gynnar â phosib;
  • atgoffa'r llys o'i bŵer i gynyddu'r ddedfryd o dan adran 66 o Ddeddf Dedfrydu 2020 os oes tystiolaeth o gasineb yn seiliedig ar hunaniaeth draws neu hunaniaeth drawsrywiol canfyddedig;
  • gweithio'n agos gyda'r heddlu, asiantaethau cyfiawnder troseddol, academyddion, rhanddeiliaid cymunedol a chyrff eraill i loywi yn gyson ein dealltwriaeth o droseddau trawsffobig a gwella ein hymateb iddynt;
    gwella ymwybyddiaeth o droseddau casineb trawsrywiol; a
  • cydnabod y gall mynd yn groes i adran 22 Deddf Ailbennu Rhywedd 2004 (swyddogion yn datgelu gwybodaeth warchodedig am statws rhywedd) gael ei gymell gan gasineb a chael ei ystyried fel troseddau casineb.

Adnodd ychwanegol sydd ar gael i gynorthwyo erlynwyr GEG yw Troseddau Casineb Homoffobig, Deuffobig a Thrawsffobig – Cyfarwyddyd Erlyn.

Ymgysylltu Cymunedol

Mae Strategaeth Cynnwys ac Ymgysylltu Cymunedol GEG yn cefnogi ein gwerthoedd, ein gweledigaeth a'n blaenoriaethau sefydliadol. Mae'n seiliedig ar ein cyfrifoldebau o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae GEG wedi gweithio ers nifer o flynyddoedd gydag amrywiaeth eang o sefydliadau Traws yn genedlaethol ac yn lleol. Mae'r sefydliadau hyn wedi helpu fel sail i'n dull o weithredu ac i gefnogi pobl Draws drwy'r system cyfiawnder troseddol, er enghraifft:

  • drwy ddatblygu datganiadau polisi a chyfarwyddyd cyfreithiol diweddar;
  • darparu rhaglenni hyfforddi gyda ffocws clir ar bersbectif y dioddefwr; ac
  • fel aelodau o Banelau Cynnwys Craffu Cenedlaethol a Lleol, gan ddarparu adborth ar erlyn achosion sy'n ymwneud â dioddefwyr a diffynyddion Traws.

Rydym yn cydnabod yr effaith anghyfartal mae digwyddiadau perthnasol i fod â hunaniaeth ryw leiafrifol yn gallu ei chael ar bobl ifanc. Profodd traean o ymatebwyr i arolwg Swyddfa Cydraddoldeb y Llywodraeth a oedd mewn addysg yn ystod blwyddyn academaidd 2016-2017 adwaith negyddol i fod yn LHDT neu bobl yn credu eu bod yn LHDT. Rydym hefyd yn cydnabod yr effaith anghyfartal y mae bwlio'n seiliedig ar hunaniaeth draws yn gallu ei chael ar bobl ifanc. Nododd Adroddiad Ysgolion Stonewall 2017 bod bron i ddwy ran o dair (64%) o ddisgyblion Traws yn cael eu bwlio am fod yn Draws yn yr ysgol.

Adnoddau Dynol (AD)

Mae dull GEG o weithredu gyda chydraddoldeb yn seiliedig ar ein cyfrifoldebau o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a Deddf Cydraddoldeb 2010, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd gyffredinol ar awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys GEG, i roi ystyriaeth briodol ym mhopeth rydym yn ei wneud i'r canlynol:

  • dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erlid;
  • hybu cyfleoedd cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu; a
  • meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu.

Mae Cynghorwyr AD ar gael i ddarparu unrhyw gefnogaeth ofynnol i staff. Ceir polisi a chyfarwyddyd perthnasol, gan gynnwys Cyfarwyddyd Traws i staff, rheolwyr llinell a gweithwyr AD proffesiynol.

Mae ein polisi absenoldeb yn datgan yn glir bod amser o'r gwaith ar gyfer gweithdrefn feddygol neu lawfeddygol sy'n ymwneud ag ailbennu rhywedd i gael ei drin yr un fath ag amser o'r gwaith ar gyfer salwch neu anaf.

Bydd cynghorwyr AD a rheolwyr llinell ar gael i sgwrsio gyda'r unigolyn am ei drawsnewid a sut mae eisiau rheoli'r broses o ddatgelu hynny i'w gydweithwyr. Yn fwy na dim, byddwn yn sicrhau bod yr unigolyn yn gyfforddus gyda'r broses.

Pan mae aelod o staff GEG yn trefnu i drawsnewid i'w rôl ryw wedi'i chadarnhau, gofynnir iddo a yw eisiau i bawb gyfeirio ato fel yr hunaniaeth rywiol wedi'i chadarnhau, fel unigolyn trawsryweddol, Traws neu anneuaidd, neu'n syml fel rhywun yn trawsnewid. Bydd y Pasbort Addasiad Gweithle cyfrinachol yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod yr holl addasiadau priodol yn cael eu cofnodi ac y cytunir ar bwyntiau i'w hystyried. Ar ôl i berson ddechrau gweithio'n barhaol yn ei rôl ryw wedi'i chadarnhau, dylid cyfeirio ato yn unol â'i ddewisiadau.

Gorffennaf 2019 (mân ddiwygiadau Chwefror ac Ebrill 2023)

Scroll to top