Beth mae angen i ni ei wneud cyn y treial
Mae’r adran hon yn egluro beth y mae angen i’n herlynwyr ei wneud cyn y treial. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ba gymorth sydd ar gael i’ch helpu i roi eich tystiolaeth a beth fydd angen i chi ei wneud cyn y treial yn yr adrannau canlynol.
Cyn i’r treial ddechrau, mae angen i ni baratoi ein hachos drwy gasglu ynghyd yr holl dystiolaeth rydym am ei defnyddio yn y treial.
Yna rydym yn cael dyddiad, a bennir gan y barnwr, erbyn pryd y mae’n rhaid i ni rannu’r holl wybodaeth hon gyda’r barnwr a’r tîm amddiffyn. Gelwir hyn yn ‘gyflwyno’r achos’.
Dyma gyfle i dîm yr amddiffyniad ddeall cryfder yr achos y mae’r heddlu wedi’i adeiladu yn erbyn y diffynnydd.
Mewn rhai achosion, gall y dystiolaeth berswadio’r diffynnydd i newid ei ble i ‘euog’ ar ôl gweld pa mor gryf yw’r achos yn ei erbyn. Byddai hynny’n golygu nad oes yn rhaid i ni gynnal y treial, fel arfer ni fyddai’n rhaid i chi roi tystiolaeth yn y llys a gallai’r barnwr symud ymlaen i’r cam dedfrydu. Os bydd hynny’n digwydd, bydd eich cyswllt yn yr heddlu yn rhoi gwybod i chi cyn gynted ag y bo modd.
The CPS prosecution team will offer to have a meeting with you which will take place before a trial if you want to. The offer of a meeting is for adult victims of a rape or a serious sexual assault.
You can bring someone who can support you if you would like.
At the meeting, you can talk to the prosecution team about what happens next, what you can expect if attending court, any questions you have and the support available to help you give your evidence. You can read more about this support in the section 'Support to give your evidence'.
If you would like to meet with the prosecution team you will be contacted by a Victim Liaison Officer (VLO) who works in the dedicated rape and serious sexual offence unit and will be your point of contact within the CPS as the case progresses. Their role is to help you with any questions you might have and also to assist in making the arrangements for the meeting to take place.
If you need any adjustments to support you at this meeting, for example, an interpreter or an intermediary, the VLO will discuss this with you and make the necessary arrangements.
Mae angen i ni hefyd rannu rhestr o’r holl ddeunydd perthnasol na fyddwn yn ei ddefnyddio gyda chyfreithwyr y diffynnydd. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw beth sy’n berthnasol i’r drosedd, i’r diffynnydd neu i amgylchiadau’r achos ond nad oes angen i ni ei ddefnyddio i brofi’r achos yn y llys. Gelwir y rhestr hon yn rhestr o ddeunyddiau heb eu defnyddio.
Unwaith y byddwn wedi llunio’r rhestr hon, bydd ein herlynydd yn edrych i weld a allai unrhyw ran o’r deunydd ychwanegol hwn danseilio ein hachos neu gefnogi achos yr amddiffyniad - mewn geiriau eraill, unrhyw wybodaeth a allai helpu tîm yr amddiffyniad. Gelwir hyn yn ‘brawf datgelu’.
Os bydd unrhyw ddeunydd yn bodloni’r prawf hwn, byddwn yn gwneud copïau ohono, yn tynnu allan unrhyw wybodaeth sensitif neu bersonol nad oes ei hangen ac yna’n rhannu’r wybodaeth angenrheidiol yn unig gyda’r tîm amddiffyn.
Os nad ydym yn meddwl bod y deunydd yn bodloni’r prawf datgelu, ni fyddwn yn ei rannu gyda nhw, a dim ond disgrifiad byr ohono y byddant yn ei weld ar y rhestr o ddeunydd sydd heb ei ddefnyddio.
Os ydynt yn credu y byddai’n helpu eu hachos, gall cyfreithwyr y diffynnydd ofyn am gael gweld y deunydd ychwanegol ar y rhestr nad ydym wedi’i rannu. Os nad ydym yn credu ei fod yn bodloni’r prawf datgelu, yna ni fyddwn yn ei rannu gyda nhw oni bai fod y barnwr yn penderfynu y dylent ei weld.
Mae'r prosesau hyn yn bwysig iawn o ran sicrhau bod y treial yn deg i bawb sy’n gysylltiedig.
Cyn i ni rannu unrhyw dystiolaeth neu ddeunydd ychwanegol gyda chyfreithwyr y diffynnydd, byddwn yn ei adolygu i dynnu allan unrhyw wybodaeth bersonol neu sensitif nad yw’n berthnasol i’r achos. Gallai gwybodaeth bersonol gynnwys pethau fel eich cyfeiriad, eich rhif ffôn ac ati. Gallai gwybodaeth sensitif gynnwys pethau fel gwybodaeth am eich iechyd.
Os yw gwybodaeth fel hyn yn berthnasol i’r achos yna byddwn yn cymryd camau i warchod eich preifatrwydd drwy wneud yn siŵr mai dim ond yr wybodaeth y mae ei gwir angen arnynt y mae’r tîm amddiffyn yn cael ei gweld.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch sut byddwn ni’n defnyddio unrhyw wybodaeth breifat, gallwch siarad â’ch cyswllt yn yr heddlu, a bydd yn fodlon ateb eich cwestiynau.
Mae angen i’n herlynydd wneud cais i’r llys am ganiatâd i ddefnyddio mathau penodol o dystiolaeth yn achos yr erlyniad.
Er enghraifft, os ydym am ddefnyddio tystiolaeth nad yw’n ymwneud yn uniongyrchol â’r achos ond sy’n dangos bod gan y diffynnydd hanes o droseddu troseddol perthnasol neu ymddygiad gwael arall (tystiolaeth o gymeriad drwg), byddai angen i ni ofyn i’r barnwr am ganiatâd i wneud hyn.
Efallai y bydd cyfreithiwr y diffynnydd hefyd yn dymuno gofyn am ganiatâd i ddefnyddio mathau penodol o dystiolaeth.
Er enghraifft, mewn achosion yn ymwneud â threisio neu droseddau rhywiol eraill, mae angen i’r barnwr roi caniatâd i’r tîm amddiffyn ddefnyddio tystiolaeth am eich hanes rhywiol blaenorol.
Mae hyn yn golygu na all bargyfreithiwr yr amddiffyniad ofyn cwestiynau i chi am eich ymddygiad rhywiol heb gael caniatâd y barnwr ymlaen llaw. Dim ond mewn amgylchiadau penodol iawn lle byddai’r dystiolaeth yn berthnasol i’r achos y bydd y barnwr yn rhoi caniatâd i wneud hyn, a byddwn bob amser yn cael rhybudd am hyn cyn y treial.
Os bydd y barnwr yn rhoi caniatâd i gyfreithwyr y diffynnydd ofyn y mathau hyn o gwestiynau, byddwn yn rhoi gwybod i chi ymlaen llaw ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Yn ystod y treial, bydd y barnwr yn parhau i fonitro’r cwestiynau y mae bargyfreithiwr y diffynnydd yn eu gofyn. Os yw’r barnwr yn credu bod cwestiwn yn amhriodol ar unrhyw adeg, ni fydd yn caniatáu iddo gael ei ofyn. Os byddwn ni’n credu bod cwestiwn yn amhriodol, gallwn ninnau hefyd wrthwynebu a gofyn i’r barnwr ei atal rhag cael ei ofyn.
Bydd erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn adolygu unrhyw dystiolaeth newydd a ddaw ar gael wrth baratoi’r achos ar gyfer treial. Gallai hyn fod yn dystiolaeth newydd a ddarganfuwyd gan yr heddlu neu’n dystiolaeth newydd a ddarparwyd gan y tîm amddiffyn.
Os yw tystiolaeth newydd yn golygu bod angen newid y cyhuddiadau neu fod angen stopio’r achos, yna bydd erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn newid y cyhuddiadau neu’n stopio’r achos. Os bydd hyn yn digwydd, bydd ein herlynydd yn cysylltu â chi i egluro’r rhesymau pam ein bod wedi gorfod gwneud y penderfyniad hwn.
Os byddwn yn penderfynu bod angen stopio'r achos, yna mae gennych hawl i ofyn i ni edrych ar ein penderfyniad eto. Gelwir hyn yn Hawl Dioddefwyr i Adolygiad – gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses hon yn ein hadran ar sut rydym yn gwneud penderfyniadau.
Mewn rhai amgylchiadau prin, ni fydd yn bosibl cynnal yr adolygiad hwn cyn i’r achos gael ei stopio. Er enghraifft, os yw’r treial eisoes wedi dechrau, dim ond drwy gynnig dim tystiolaeth y byddwn yn gallu stopio’r achos. Mae hyn yn golygu y bydd y diffynnydd yn cael ei ddyfarnu’n ddieuog yn ffurfiol ac ni fyddwn yn gallu ailddechrau’r achos eto yn y dyfodol.
Rhwng y gwrandawiad cyntaf a dyddiad y treial, gall y barnwr bennu dyddiadau ar gyfer ‘gwrandawiadau gweinyddol’.
Pwrpas y gwrandawiadau hyn yw gwirio cynnydd yr achos a sicrhau bod popeth am fod yn barod ar gyfer diwrnod y treial.
Yn yr achosion mwyaf cymhleth yn Llys y Goron, gall y barnwr gynllunio ‘gwrandawiad paratoi ar gyfer treial pellach’. Y rheswm am hyn yw bod yr achosion hyn yn gymhleth, yn aml gyda llawer o dystiolaeth i fynd drwyddi, felly gall fod yn ddefnyddiol cael cyfle arall i adolygu’r amserlen ar gyfer y treial er mwyn helpu i sicrhau ei fod yn gallu mynd ymlaen ar amser.