Strategaeth Adfocatiaeth CPS 2025
Tabl Cynnwys
- Rhagair
- Cyflwyniad
- Ein Pobl
- Gallu Digidol
- Partneriaethau Strategol
- Ansawdd Gwaith Achos
- Hyder y Cyhoedd
- Mesur Llwyddiant
Rhagair
Mae adfocatiaeth CPS - ar lafar ac yn ysgrifenedig - yn dod â'r gyfraith, a'n rôl fel erlynwyr, yn fyw. Dyma'r cyfrwng yr ydym yn esbonio ein penderfyniadau, yn cyflwyno ein hachosion, ac yn cefnogi tystion trwyddo i roi eu tystiolaeth orau ym mhob gwrandawiad ac ar draws pob llys.
Adfocadau yw llais y CPS. Mae eu harweinyddiaeth cyfreithiol yn pennu sut y cynhelir gwrandawiadau ond hefyd beth sy'n digwydd rhwng gwrandawiadau, sut mae ein sefydliad yn gweithredu, sut y symudir achosion ymlaen a sut rydym yn ymgysylltu â'n partneriaid i godi hyder ymhlith y cyhoedd.
Dyma pam rydym yn dal wedi ein hymrwymo i gynnal ein gallu eiriolaeth ac yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu a chynyddu yn llysoedd yr ynadon a'r llysoedd uwch.
Rydym wedi cyflawni llawer dros y pum mlynedd diwethaf. Rydym wedi recriwtio llawer o bobl i rolau eirioli mewnol, ynghyd â hyfforddi a datblygu gwell. Ar yr un pryd, rydym wedi cryfhau'r perthnasoedd sydd gennym â darparwyr a rhanddeiliaid Adfocatiaeth allanol.
Mae ein gweledigaeth ar gyfer 2025 yn adeiladu ar y cynnydd hwnnw, gan ddarparu fframwaith ar gyfer llwyddiant parhaus. Yn sail i hynny mae'r egwyddor o gyfarwyddo'r adfocad cywir ar gyfer yr achos cywir ac mae'n nodi gwerth a phwysigrwydd cael carfan dalentog, addasadwy ac amrywiol o adfocadau sy'n cyflenwi cyfiawnder i'r cyhoedd rydym yn eu gwasanaethu trwy erlyniadau teg ac annibynnol.
Max Hill CB
Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus
Ein hymagwedd a nodau strategol
- Mae ein pobl wrth galon popeth a wnawn.
- Mae ein gallu digidol yn galluogi ein llwyddiant.
- Trwy ein partneriaethau strategol, rydym yn llunio fframwaith cyfreithiol, polisi a gweithredu sy'n hwyluso ein rôl graidd: erlyniadau annibynnol a theg.
- Mae safonau uchel o ansawdd gwaith achos yn hanfodol i gyflenwi cyfiawnder.
- Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y system cyfiawnder troseddol i sicrhau bod y cyhoedd yn ddiogelach.
Mae pawb yn y CPS yn chwarae eu rhan wrth gyflenwi pob nod strategol. Mae popeth a wnawn yn cyfrannu at ein nod sylfaenol o adeiladu hyder ymhlith y cyhoedd trwy gyflenwi gwasanaethau sydd yn deg ac yn cael eu deall gan bob cymuned.
Ein Pobl
Mae cymorth i lwyddiant a lles ein pobl yn galluogi pawb i ffynnu.
Gallu Digidol
Mae ein buddsoddiad mewn gallu digidol yn ein helpu i addasu i natur troseddu sy'n newid yn gyflym a gwella'r ffordd y cyflawnir cyfiawnder.
Partneriaethau Strategol
Mae'r CPS yn llais blaengar mewn strategaethau traws-lywodraethol a chydweithredu rhyngwladol i drawsnewid y system cyfiawnder troseddol.
Ansawdd Gwaith Achos
Mae arbenigedd cyfreithiol, ansawdd gwaith achos a chydweithredu'r CPS ar draws y system cyfiawnder troseddol yn cadw'r cyhoedd yn ddiogelach.
Hyder y Cyhoedd
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i wasanaethu dioddefwyr a thystion a chynnal hawliau diffynyddion mewn ffordd sydd yn deg ac yn cael ei deall gan bob cymuned.
Cyflwyniad
Mae adfocatiaeth yn allweddol i gyflawni nodau strategol ein sefydliad.
Fe'i cyflenwir - ar draws pob lleoliad llys - trwy gyfuniad o'n hadfocadau mewnol ein hunain, ac adfocadau allanol, megis erlynwyr asiant neu aelodau'r Bar hunan-gyflogedig, yn cynrychioli'r Goron.
Hefyd mae ein cydweithwyr ym maes cyflenwi gweithredol, sy'n darparu'r llwyfan ar gyfer adfocatiaeth effeithiol, yn allweddol i lwyddiant ein hadfocadau.
Mae'r strategaeth hon yn adeiladu ar CPS 2025, gan nodi bod pawb yn y CPS yn chwarae eu rhan wrth gyflenwi pob nod strategol. Mae'n cymryd i gyfrif ein heriau uniongyrchol, a sut rydym am gyflenwi a chynnal ein gallu adfocatiaeth dros y pum mlynedd nesaf. Mae'n disgrifio beth rydym yn ei ddisgwyl gan ein hadfocadau a sut y byddwn yn eu cefnogi i ddatblygu'r arbenigedd a'r ymddygiadau sydd eu hangen i fod yn eithriadol.
Mae'n cefnogi Ardaloedd lleol ac Is-adrannau Gwaith Achos wrth ddarparu gwasanaethau adfocatiaeth wydn o ansawdd uchel, yn unol â'r angen busnes, a mewn ymateb i gyfleoedd ar gyfer twf. Cefnogir y strategaeth gan gynllun cyflenwi cenedlaethol.
Sue Hemming, Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol | Greg McGill, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol | Claire Lindley, CCP 2025 Arweinydd y Strategaeth Adfocatiaeth
Ein Pobl
Nod:
Caiff ein hadfocadau eu cefnogi i gyflenwi adfocatiaeth o ansawdd uchel - gan weithio ac arwain wrth gofio ein gwerthoedd.
Canlyniadau:
- Rolau adfocatiaeth mewnol - o Erlynydd Cyswllt i Brif Adfocad y Goron - ac mae llwybrau i symud ymlaen yn glir, ac yn gydnaws â rolau adfocatiaeth allanol, lle mae'n briodol
- Mae adfocadau talentog sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, yn cael eu denu a'u cadw ar bob lefel yn y llysoedd is ac uwch, trwy gyfuniad o fesurau, gan gynnwys Llwybr Adfocad y Goron a chymorth parhaol ar gyfer prentisiaethau Cyfreithwyr
- Mae gan ein hadfocadau yn llysoedd yr ynadon a Llys y Goron yr offer a'r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo
- Mae ein holl erlynwyr mewnol wedi'u hyfforddi'n dda ac yn addasadwy, gyda mynediad parhaus i hyfforddiant a dysgu adfocatiaeth i gefnogi pob agwedd ar eu datblygiad, gan gynnwys ymagwedd newydd at ddatblygu ein hadfocadau uwch
- Cefnogir rhannu syniadau ac arferion gorau ar gyfer adfocatiaeth ar draws y sefydliad, gan gynnwys trwy gynadleddau adfocatiaeth blynyddol
Gallu Digidol
Nod:
Byddwn yn harneisio technoleg newydd fel ei bod yn hysbysu ac yn cefnogi sut rydym yn cyflawni adfocatiaeth.
Canlyniadau:
- Mae offer digidol yn gwella'r ffordd rydym yn cyflwyno tystiolaeth ac yn esbonio'r achos i'r llys
- Rydym yn erlyn ac yn cynyddu achosion yn y llys yn hyderus - gan gyfuno adfocatiaeth o bell ac yn bersonol, er mwyn sicrhau yr ymdrinir ag achosion cyn gynted â phosibl, yn unol â buddiannau cyfiawnder
- Rydym yn defnyddio systemau clyfar i sicrhau bod ein hadfocad dewisol yn cyd-fynd â'n briff a'n hegwyddorion adleoli
- Mae proses y Panel Adfocadau CPS yn symud ar-lein ar gyfer pob cyfranogwr
- Cyflwynir technoleg newydd i gefnogi ein swyddogaeth glercio ac olrhain dyrannu achosion
Partneriaeth Strategol
Nod:
Gan weithio'n gydweithredol, byddwn yn cyflenwi adfocatiaeth sy'n diwallu anghenion y CJS modern ac yn hwyluso ein rôl graidd: erlyniadau teg ac annibynnol.
Canlyniadau:
- Cyflenwir cyfiawnder yn effeithiol, yn arloesol, ac yn ddiogel, mewn cydweithrediad â'r farnwriaeth, y Bar, Cymdeithas y Gyfraith a rhanddeilaid CJS eraill
- Mae ein Panel Adfocadau'n cynnwys carfan brofiadol, medrus, ac amrywiol o erlynwyr allanol, a mae'n cynnig cyfleoedd mwy i gynyddu
- Mae cynlluniau ffioedd CPS ar gyfer adfocadau allanol yn cael eu hadolygu'n rheolaidd
- Mae ymgysylltu'n effeithiol â'n partneriaid allanol yn sicrhau bod ein hadfocatiaeth bob amser o'r ansawdd uchaf ac y rhoddir mwy o flaenoriaeth i faterion megis amrywiaeth
- Cyhoeddir Datganiad Amrywiaeth a Chynhwysiant CPS ar gyfer y Bar
Ansawdd Gwaith Achos
Nod:
Bydd yr adfocad cywir ar gyfer yr achos yn arwain o'r rheng flaen - gan wneud gwahaniaeth positif ym mhob gwrandawiad er mwyn symud achosion ymlaen, gan esbonio penderfyniadau ac yn cydweithio ag eraill i wella ansawdd ein gwaith achos.
Canlyniadau:
- Mae cadw at egwyddorion briffio'n sicrhau y cyfarwyddir yr adfocad cywir ar gyfer yr achos ar bob achlysur
- Defnyddir economi cymysg o adfocadau mewnol ac allanol, gan fodloni ein hanghenion ac yn cefnogi hirhoedledd wrth ddarparu gwasanaethau adfocatiaeth o ansawdd uchel
- Mae ein hadfocadau'n derbyn cyfarwyddiadau manwl a phwrpasol ym mhob achos, gan amlygu materion perthnasol ac yn amlinellu penderfyniadau allweddol ynghylch gwaith achos
- Mae ein hadfocadau'n ychwanegu gwerth, gan gydymffurfio â disgwyliadau a gofynion CPS i gynyddu achosion yn benderfynol ym mhob gwrandawiad
- Mae ein hadfocadau'n darparu cyngor ysgrifenedig amserol, manwl a chlir ar dystiolaeth a/neu haeddiant apeliadau
- Cyflawnir safonau uchel o adfocatiaeth ar draws yr holl lysoedd ac ym mhob achos
Hyder y Cyhoedd
Nod:
Bydd ein hadfocadau'n erlyn mewn ffordd sydd yn sicrhau cyfiawnder ac yn cefnogi dioddefwyr, tystion, yn cynnal hawliau diffynyddion, a sydd yn deg ac yn cael ei deall gan bob cymuned.
Canlyniadau:
- Mae tystion yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth i roi eu tystiolaeth orau, yn cael eu cynorthwyo'n gywir ac yn gwybod mwy am yr hyn i'w ddisgwyl cyn iddynt roi eu tystiolaeth
- Mae ein hadfocadau'n cyfathrebu'n glir ac yn effeithiol gyda dioddefwyr a thystion, yn y llys ac y tu allan iddo, fel eu bod yn deall canlyniadau achosion a sut mae ein gwaith yn helpu i'w cadw'n ddiogel
- Mae'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu'n ystyried eu bod yn cael eu hadlewyrchu'n well yn amrywiaeth ein hadfocadau
- Mae gan ein hadfocadau - mewnol ac allanol - sicrwydd ansawdd
Mesur Llwyddiant
Byddwn yn defnyddio mesurau llwyddiant wedi'u halinio i CPS 2025 i olrhain ein cynnydd yn ôl nodau strategol a'r canlyniadau strategol sy'n sail iddynt.
Bydd gwirio ein cynnydd yn rheolaidd fel hyn yn sicrhau ein bod yn parhau i symud yn gadarn tuag at gyflawni ein nodau strategol.