English

Gwnewch gais i fod yn uwch erlynydd y goron

Ymunwch â Gwasanaeth Erlyn y Goron a chael dyfodol sy’n bwysig.

Mae'r ffenestr ymgeisio yn agor 9 Medi 2024.

Pam Gwasanaeth Erlyn y Goron?

Rydym yn amddiffyn y cyhoedd drwy erlyn y person cywir am y drosedd gywir. Rydym yn annibynnol ac yn gwneud penderfyniadau’n deg ac yn wrthrychol drwy ddilyn ein Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron.

Paratoi a chyflwyno achosion ar gyfer eu herlyn yn y llys

Cynghori’r heddlu ac ymchwilwyr eraill ar waith achos

25 diwrnod o wyliau bob blwyddyn, 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd

Mantais o weithio mewn swyddfa 40% o’r amser

Rhaglen hyfforddi cyfreithwyr os ydych chi’n erlynydd newydd

Pensiwn cyfrannol cystadleuol o hyd at 27%

Ydych chi yn gyfreithwyr sydd wedi’i hyfforddi’n dda, sy’n meddu ar sgiliau pobl rhagorol ac sy’n frwd dros weinyddu cyfiawnder?

Mae Tamina yn uwch erlynydd y goron. ‘Mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud fel erlynwyr yn hynod bwysig i’r gymuned gyfan.’

Mae Eurgain yn hyfforddai cyfreithiol sy’n siarad Cymraeg a Saesneg. Cafodd ei derbyn ar ein cynllun dwyieithog i hyfforddeion cyfreithiol, ac mae'n datblygu sgiliau a fydd yn cefnogi gyrfa lwyddiannus yn y gyfraith. 

Gwnewch gais am y cyfle hwn a chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau cyfiawnder. 

Mae'r ffenestr ymgeisio yn agor 9 Medi 2024.

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am swyddi gwag

Ymunwch â'n cylchlythyr i ddarganfod mwy am gyfleoedd i ymuno â Gwasanaeth Erlyn y Goron.