Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Gweithiwr mewn gŵyl wedi’i ddedfrydu am fod â delweddau anweddus a chynnig cyffuriau i swyddog diogelwch

|News, Sexual offences , Drug offences

Mae unigolyn a oedd yn gweithio ar stondin fwyd yng ngŵyl Init Together wedi cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ar ôl iddo geisio gwerthu cyffuriau i swyddog diogelwch.

Roedd Adam Bell, 19, yn yr ŵyl ym Mharc Margam ar 24 Mai 2024 pan aeth at y swyddog diogelwch (a oedd mewn dillad cyffredin) a chynnig gwerthu “ket” iddo. Rhoddwyd gwybod i swyddogion yr heddlu, ac ar ôl i Bell gael ei arestio, daethpwyd o hyd i bowdwr gwyn a chlorian yn ei babell.

Hefyd, wrth archwilio ffôn Bell, gwelwyd bod ganddo ddelweddau anweddus o blant, a bod rhai o’r rhain wedi cael eu rhannu. Datgelwyd cyfanswm o 146 o ddelweddau categori A, sef y categori mwyaf difrifol. Roedd 63 o ddelweddau categori B a 75 o ddelweddau categori C ar y ffôn hefyd.

Roedd y ffôn hefyd yn cynnwys fideo voyeuraidd a dynnwyd gan Bell yn ffilmio i fyny sgert merch ifanc – fideo nad oedd y dioddefwr yn ymwybodol ohono.

Dywedodd Jonathan Pritchard o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd tystiolaeth gref i ddangos bod Bell yn bwriadu defnyddio’r ŵyl i gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon, ac roedd ei ffôn symudol yn dangos ei fod wedi lawrlwytho a rhannu delweddau amhriodol o blant.

“Gan weithio gyda’r heddlu, aeth Gwasanaeth Erlyn y Goron ati i adeiladu’r achos ar sail y dystiolaeth gref hon, a arweiniodd at Bell yn pledio’n euog i sawl trosedd.

“Mae Bell bellach wedi cael dedfryd am y troseddau hyn, gan gynnwys gorchmynion sydd wedi’u llunio i ddiogelu’r cyhoedd.”

Ar 16 Awst 2024, dedfrydwyd Adam Bell i ddwy flynedd a thri mis mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc yn ogystal â Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol deng mlynedd a gofynion hysbysu.

Nodiadau i olygyddion

  • Daw Adam Bell (Dyddiad Geni: 9/6/2005) o Richmond upon Thames
  • Ar 26 Gorffennaf 2024, plediodd Bell yn euog i’r troseddau canlynol: 3 x creu ffotograffau anweddus o blant; 1 x rhannu ffotograffau anweddus o blant; 1 x voyeuriaeth; 1 x bod â chyffur rheoledig dosbarth B (Ketamine) yn ei feddiant gyda bwriad i’w gyflenwi
  • Mae Jonathan Pritchard yn Uwch Erlynydd y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Cymru.

Further reading

Scroll to top