Dyn yn cael ei garcharu am ymosod yn rhywiol ar fenyw yn ei chartref ei hun
Aeth Benjamin Guiver, 35 oed, i mewn i’r eiddo yn hwyr yn y nos lle’r oedd y fenyw wedi syrthio i gysgu yn yr ystafell fyw. Deffrodd i weld Guiver yn yr ystafell a rhedodd allan o’r eiddo mewn braw.
Dilynodd Guiver hi, gafaelodd yn ei gwallt a’i dyrnu, ac wedyn tarodd ei hwyneb ar y llawr. Ar ôl llusgo’r ddynes yn ôl i’r tŷ gerfydd ei gwallt, ymosododd Guiver arni’n rhywiol.
Yna, cyrhaeddodd perthynas gwrywaidd i’r ddynes a hel Guiver allan o’r tŷ ond dyma Guiver yn ymosod arno ef hefyd drwy ei ddyrnu a’i dagu, cyn i’r heddlu gyrraedd.
Dywedodd Jessie Walling o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd y trais corfforol a rhywiol a ddioddefwyd gan y fenyw dan law dieithryn llwyr yn ei chartref ei hun yn erchyll.
“Roedd y dystiolaeth gadarn a gyflwynwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron wedi golygu bod y dyn wedi pledio’n euog i droseddau difrifol iawn. Mae’r ddau a ddioddefodd yr ymosodiadau wedi bod yn ddewr iawn, a gobeithio y byddan nhw’n cael rhywfaint o gysur o weld y troseddwr hwn yn cael ei ddwyn gerbron y llys am ei droseddau dychrynllyd.”
Cafodd Benjamin Guiver ei ddedfrydu i 20 mlynedd o garchar yn Llys y Goron Abertawe ar 31 Hydref 2024, gyda’r 5 mlynedd diwethaf i’w gyflwyno ar drwydded. Cafodd Guiver orchymyn atal hefyd.
Nodiadau i olygyddion
- Rydym yn atgoffa golygyddion bod cyfyngiadau adrodd yn atal cyhoeddi unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod y fenyw a ddioddefodd yr ymosodiad
- Mae Jessie Walling yn Uwch Erlynydd y Goron yn nhîm Trais a Throseddau Rhywiol Difrifol (RASO) Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru
- Roedd Benjamin Guiver (Dyddiad Geni: 4/8/1989) wedi pledio’n euog i’r troseddau canlynol mewn perthynas â’r dioddefwr benywaidd: achosi Niwed Corfforol Difrifol (GBH) gyda bwriad; tresmasu gyda’r bwriad o gyflawni trosedd rhywiol; ymosodiad drwy dreiddio; tagu bwriadol
- Hefyd, plediodd Benjamin Guiver yn euog i ymosod ar y dioddefwr gwrywaidd gan achosi gwir niwed corfforol (ABH) a thagu bwriadol
- Cyflawnwyd pob trosedd ar 24 Mai 2024.