Chwilio Manwl

Gweithio i'r CPS

Gwasanaeth Erlyn y Goron yw'r Adran Lywodraethol sy'n gyfrifol am erlyn pobl yng Nghymru a Lloegr sy'n cael eu cyhuddo o dramgwydd troseddol gan yr heddlu.

Mae'r CPS yn cyflogi oddeutu 8,000 o staff, gan gynnwys oddeutu 2,700 o gyfreithwyr a phob blwyddyn, byddant yn delio gyda mwy nag 1.2 miliwn achos yn Llys yr Ynadon ac yn Llys y Goron.

Swyddi Gwag Diweddaraf

Er mwyn gweld y Swyddi Gwag Diweddaraf yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron ymwelwch â rhan Saesneg y wefan hon

Y Swyddi Gwag Diweddaraf yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron

Eich canllaw i'r Cynllun Hyfforddeion Cyfreithiol

Image of a legal professional

Noder y bydd unrhyw leoedd gwag ar gyfer y Cynllun Hyfforddeion Cyfreithiol yn cael ei hysbysebu ar y dudalen hon. Os na fydd lleoedd gwag wedi eu rhestru, nid ydym wrthi'n recriwtio ar gyfer y cynllun hwn.

Eich canllaw i'r Cynllun Hyfforddeion Cyfreithiol 2007/2008

Cyfleoedd Cyfartal

Bod yn Gadarnhaol am Anabledd

Mae'r CPS yn gyflogwr cyfle cyfartal, a rhaid iddo gadw at ei bolisïau, gan gynnwys yr angen i ymochel rhag rhagdybiaethau ffug ar sail rhyw neu statws priodasol, newid rhyw, tueddfryd rhywiol, lliw, hil, crefydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, patrwm gwaith, h.y. gweithio rhan amser, oedran neu anabledd unrhyw swyddog, ar bob cam yn y broses ddewis. Mae'r CPS hefyd yn defnyddio Symbol Anabledd. Yn sgil hyn, bydd pob aelod anabl o'r staff sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer swyddi gweigion a hysbysebir yn y CPS yn cael ei wahodd am gyfweliad.